成人快手

CymharebEnghraifft arall ar gyfer yr haen uwch

Mae cymhareb yn dangos y berthynas rhwng dau werth. Gallan nhw fod mewn cyfrannedd union ac yn cynyddu wrth i'r llall gynyddu neu mewn cyfrannedd gwrthdro; mae un yn cynyddu wrth i'r llall leihau.

Part of Mathemateg RhifeddRhif

Enghraifft arall ar gyfer yr haen uwch

Dyma fanylion a welir mewn siop baent:

Tabl sy'n dangos risiau Paent a chyfarwyddiadau cymysgu Paent

Cyfrifa faint mae鈥檔 ei gostio i brynu 1.5 litr o Machlud Llosg a 3.5 litr o Goleuadau Fiesta.

Ateb

Ateb ar gyfer 1.5 litr o Machlud Llosg

Mae Machlud Llosg wedi ei wneud o 5 rhan coch a 7 rhan melyn = 12 rhan.

Rydyn ni eisiau 1.5 litr = 1,500 ml.

1,500 梅 12 = 125 ml am bob 鈥榬han鈥 yn y gymhareb.

Felly rydyn ni eisiau:

  • 5 脳 125 = 625 ml coch
  • 7 脳 125 ml melyn = 875 ml
  • Gwiria: 625 ml + 875 ml = 1,500 ml = 1.5 litr

Sy鈥檔 costio:

  • 6.25 脳 拢1.40 = 拢8.75 a
  • 8.75 脳 拢1.25 = 拢10.9375 = 拢10.94 (i鈥檙 geiniog agosaf)

Felly鈥檙 cyfanswm ar gyfer y paent hwn yw 拢8.75 + 拢10.94 = 拢19.69.

Ateb ar gyfer 3.5 litr o Goleuadau Fiesta

Mae Goleuadau Fiesta wedi ei wneud o 2 ran melyn, 5 rhan coch a 7 rhan glas = 14 rhan.

Rydyn ni eisiau 3.5 litr = 3,500 ml.

3,500 梅 14 = 250 ml am bob 鈥榬han鈥 yn y gymhareb.

Felly rydyn ni eisiau:

  • 2 脳 250 = 500 ml melyn
  • 5 脳 250 = 1,250 ml coch
  • 7 脳 250 = 1,750 ml glas
  • Gwiria: 500 ml + 1,250 ml + 1,750 ml = 3,500 ml = 3.5 litr

Sy鈥檔 costio:

  • 5 脳 拢1.25 = 拢6.25 a
  • 12.5 脳 拢1.40 = 拢17.50 a
  • 17.5 脳 拢1.50 = 拢26.25.

Felly鈥檙 cyfanswm ar gyfer y paent hwn yw 拢6.25 + 拢17.50 + 拢26.25 = 拢50.00.