成人快手

Amrediad a phlotiau blwch a blewynAmrediad a chanolrif

Mae plotiau blwch a blewyn yn ffordd effeithiol o gymharu dosraniadau a chrynhoi eu nodweddion yn hawdd. Defnyddir y diagramau hyn yn aml wrth ddadansoddi data ac mewn gwaith ystadegol.

Part of Mathemateg RhifeddYstadegau

Amrediad a chanolrif

Mae鈥檔 hawdd iawn cyfrifo amrediad set o ddata trwy dynnu鈥檙 gwerth lleiaf o鈥檙 un mwyaf.

Teclun i newid amrediad y price o鈥檙 isafswm o 拢10 i鈥檙 uchafswm o 拢55,000
Figure caption,
Mae gwefannau鈥檔 aml yn gadael i ti ddewis 鈥榓mrediad prisiau鈥 鈥 y pris lleiaf a鈥檙 pris mwyaf rwyt ti鈥檔 fodlon ei dalu. Fodd bynnag, rhif sengl yw gwir amrediad, 拢54,990 yn yr enghraifft uchod.

Er enghraifft, gyda鈥檙 data canlynol:

3, 5, 7, 8, 9, 13, 15

Yr amrediad yw 15 - 3 = 12.

Mae amrediad yn bwysig i ni gan ei fod yn dweud rhywbeth wrthyn ni am wasgariad y data a phan fydd gennyn ni grwpiau mawr o rifau i鈥檞 trin, mae hon yn ffordd gyflym o ddweud rhywbeth am y set ddata yn ei chyfanrwydd.

Un o gyfyngiadau鈥檙 amrediad yw bod yn effeithio arno. Edrycha ar y data isod:

1, 1, 3, 12, 2, 4, 5, 2, 1, 1, 6, 3, 4

Ar hyn o bryd, yr amrediad yw 11 (12-1). Fodd bynnag, nid yw hyn yn dweud unrhyw beth defnyddiol wrthyn ni am y data. Y rheswm am hyn yw bod yr un gwerth mawr (12) yn ystumio鈥檙 amrediad. Heb yr un gwerth hwn yr amrediad fyddai 5 (6-1). Byddai鈥檙 amrediad yn mwy na haneru. Ceir mesurau eraill ar gyfer gwasgariad lle nad yw鈥檙 gwerthoedd eithafol yn effeithio cymaint arnyn nhw.

Y canolrif mewn set o ddata yw鈥檙 gwerth canol pan fo鈥檙 data yn cael eu trefnu yn 么l maint. Pan fo dau werth canol, y canolrif yw y ddau.

Er enghraifft, o鈥檙 data uchod:

3, 5, 7, 8, 9, 13, 15

Mae yma saith gwerth, felly鈥檙 gwerth canol fydd y pedwerydd. Felly canolrif y data uchod yw wyth.

Dywedir weithiau, os oes gennyn ni n darn o ddata, y canolrif yw鈥檙 \(\frac{(n+1)}{2}\) gwerth. Gan ddefnyddio鈥檙 enghraifft uchod unwaith eto, gwelwn fod gennyn ni saith gwerth (n=7) felly鈥檙 \(\frac{(n+1)}{2}\) gwerth fyddai \(\frac{(7+1)}{2}\) = y 4ydd gwerth, sy鈥檔 wyth, fel y sonion ni yn gynharach.

Beth am i ni edrych ar enghraifft arall, beth yw canolrif y data canlynol?

12, 14, 13, 20, 17, 15

Yn gyntaf, mae鈥檔 rhaid i ni eu rhoi mewn trefn yn 么l eu maint:

12, 13, 14, 15, 17, 20

Nawr rydyn ni鈥檔 sylwi bod yna ddau werth canol (14 ac 15) felly rhaid i ni ganfod cymedr y rhain. Yn syml, cymedr dau rif yw鈥檙 rhif sydd hanner ffordd rhwng y ddau \([\frac{(14+15)}{2}]\).

Felly鈥檙 canolrif yw 14.5.

Mae鈥檙 canolrif yn mesur canolduedd. Mae鈥檔 dweud rhywbeth gwerthfawr wrthyn ni am y data 鈥 yn fras, pa werthoedd y gallwn ni eu disgwyl yn y canol. Mae鈥檙 cymedr yn fesur arall o鈥檙 canolduedd ond, fel yr amrediad, gall gwerthoedd eithafol effeithio arno.

Question

Beth yw amrediad y rhifau canlynol?

13, 3, 8, 16, 12

Question

Mae Jim yn cofnodi am faint o funudau mae鈥檔 ymarfer pob dydd, yn ei ff么n.

Beth yw canolrif y rhifau canlynol?

19, 42, 45, 36, 23, 27