˿

Mesurau cyfansawddDwysedd poblogaeth – haenau canolradd ac uwch

Mae mesurau cyfansawdd yn fesurau sy’n cynnwys dwy uned wahanol neu fwy, ee m/s, g/cm³, poblogaeth fesul km² a milltiroedd y galwyn. Rydyn ni’n gweld mesurau cyfansawdd mewn pob math o gyd-destunau.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Dwysedd poblogaeth – haenau canolradd ac uwch

Mae dwysedd poblogaeth (wedi ei dalfyrru i DP yn aml) yn fesur cyfansawdd sy’n dweud wrthyn ni’n fras faint o bobl sy’n byw mewn ardal o faint penodol. Mae’n cael ei ddefnyddio’n aml i gymharu pa mor “boblog” yw dwy ardal.

Er enghraifft, Mumbai yw un o'r dinasoedd mwyaf poblog ar y ddaear, gyda thua 29,650 person y km2. Mae dwysedd poblogaeth Llundain tua 5,100 person y km2, sef llai nag un rhan o bump o un Mumbai!

Torf o bobl ar un o blatfformau gorsaf drenau Chhatrapati Shivaji Terminus yn Mumbai
Image caption,
Gorsaf drenau Chhatrapati Shivaji Terminus yn Mumbai LLUN: Tuul and Bruno Morandi

Yr hafaliad ar gyfer dwysedd poblogaeth yw:

\(\text{dwysedd~poblogaeth}=\frac{\text{poblogaeth}}{\text{arwynebedd~y~tir}}\)

Rhan amlaf, mae’n cael ei fesur fel poblogaeth fesul cilometr sgwâr.

Question

Mae gan Athen (prifddinas Groeg) boblogaeth o 3,685,000 ac arwynebedd tir o 684 km2. Beth yw dwysedd poblogaeth Athen? Rho dy ateb i ddau le degol.

Question

Cyfrifa arwynebedd Las Vegas os yw’r dwysedd poblogaeth yn 1,750 person y km2 a’r boblogaeth yn 1,300,000 person. Rho dy ateb i ddau le degol.