˿

Mesurau cyfansawddDwysedd – haenau canolradd ac uwch

Mae mesurau cyfansawdd yn fesurau sy’n cynnwys dwy uned wahanol neu fwy, ee m/s, g/cm³, poblogaeth fesul km² a milltiroedd y galwyn. Rydyn ni’n gweld mesurau cyfansawdd mewn pob math o gyd-destunau.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Dwysedd – haenau canolradd ac uwch

Mae dwysedd yn mesur maint y màs sydd gan wrthrych fesul uned o gyfaint. Mae dwysedd yn fesur cyfansawdd gan na ellir defnyddio’r un unedau i fesur màs a chyfaint.

Can o ddiod feddal arferol wedi suddo i waelod tanc o ddŵr a chan o ddiod feddal heb siwgr yn arnofio
Figure caption,
Mae gwrthrychau sy’n fwy dwys na dŵr yn suddo, tra bo rhai llai dwys yn arnofio. Un enghraifft ddiddorol o hyn yw caniau o ddiod feddal arferol a’r fersiwn heb siwgr

Mae màs yn cyfeirio at faint o ddeunydd mae rhywbeth wedi ei wneud ohono, ac mae fel arfer yn cael ei fesur mewn cilogramau (kg). Y pwysau yw’r grym y byddai’r un faint o ddeunydd yn ei wthio i lawr ar y Ddaear ac mae’n cael ei fesur mewn Newton (N).

Mae hyn yn anodd i’w ddeall gan fod y ddau derm yn aml yn cael eu camddefnyddio mewn bywyd bob dydd. Gallai dy glorian ddweud wrthyt dy fod yn pwyso 88 kg. Fodd bynnag, dy fàs di yw hwn – byddai dy bwysau tua 880 N mewn gwirionedd.

Yr hafaliad ar gyfer dwysedd yw:

(ٱٵɲ尨=ڰٱٵàٱٵڲԳٰ)

A gellir ad-drefnu’r hafaliad hwn i:

(ٱٵà=ٱٵɲ尨پٱٵڲԳٰ)

a

(ٱٵڲԳٰ=ڰٱٵàٱٵɲ尨)

Mae dwysedd fel arfer yn cael ei fesur mewn un ai kg/m3 neu g/cm3.

Triongl hafaliad màs, dwysedd a chyfaint
Figure caption,
Mae triongl hafaliad yn rhywbeth y gallwn ei ddefnyddio i’n helpu i ad-drefnu hafaliadau

Question

Mae alwminiwm yn fetel â dwysedd isel iawn felly mae’n cael ei ddefnyddio i adeiladu pob math o gerbydau.

Cyfrifa ddwysedd alwminiwm os mai 54 g yw màs 20 cm3 ohono.

Question

Mae aur yn ddrud ac mae galw mawr amdano, nid yn unig oherwydd ei liw a’i sglein, ond hefyd oherwydd nad yw’n rhydu’n hawdd. Hoffai Jimmy adeiladu car cyflym allan o aur ond mae’n poeni am y màs. Dwysedd aur yw 19,300 kg/m3 ac mae cyfaint y car cyflym arferol tua 1.5 m3.

Cyfrifa beth yw màs car cyflym wedi ei wneud o aur.