成人快手

Llun o gerflun Betty Campbell yn Sgwar Canolog, Caerdydd

Creda neu beidio, cerflun Betty Campbell a gafodd ei ddadorchuddio ym mis Medi 2021, oedd y cerflun cyntaf cyhoeddus o fenyw benodol yn yr awyr agored yng Nghymru.

Hi oedd prifathrawes ddu gyntaf Cymru, ac hi enillodd bleidlais Merched Mawreddog i ddewis cerflun pwy fyddai'n cael ei godi yn Sgw芒r Canolog Caerdydd.

Dwi鈥檔 si诺r galli di feddwl am ferched eraill o Gymru sy鈥檔 haeddu cerflun hefyd. Dyma saith merch sydd wedi gwneud eu marc - beth am fynd i edrych am fwy o wybodaeth amdanyn nhw?

Llun o gerflun Betty Campbell yn Sgwar Canolog, Caerdydd

Nicole Cooke (1983)

Nicole Cooke ar gefn beic
Image caption,
Nicole Cooke yn dathlu wrth iddi ennill yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2002

Y tro nesaf mae rhywun yn dweud wrthot ti mai Geraint Thomas oedd y cyntaf o Gymru i ennill ras y Tour de France, cofia ei cywiro nhw. Enillodd Nicole Cooke fersiwn y merched o鈥檙 ras ddwywaith - yn 2006 a 2007.

Yn ogystal ag ennill y Grande Boucle, enillodd fedal aur dros Gymru yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad ym Manceinion yn 2002. Fe wnaeth hi greu hanes yn 2008. Enillodd hi'r fedal aur yn y Gemau Olympaidd a Phencampwriaeth y Byd. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw seiclwr, merch neu ddyn, i wneud hyn yn yr un flwyddyn.

Ers iddi ymddeol o鈥檙 gamp yn 2013, mae Nicole Cooke wedi bod yn dweud ei dweud am y byd chwaraeon. Bu鈥檔 feirniadol iawn o statws campau merched i gymharu 芒 rhai y dynion. Soniodd hefyd am yr annhegwch o orfod cystadlu yn erbyn seiclwyr oedd yn twyllo drwy gymryd cyffuriau.

Nicole Cooke ar gefn beic
Image caption,
Nicole Cooke yn dathlu wrth iddi ennill yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2002

Catrin o Ferain (1534-1591)

Portread o Catrin o Ferain yn dal llyfr gweddi a'i llaw yn gorwedd ar benglog sydd ar fwrdd.
Image caption,
Peintwyd y llun hwn o Catrin yn Antwerp gan Adriaen van Cronenburg yn 1568

Roedd Catrin o Ferain yn foneddiges ddylanwadol a chyfoethog mewn oes pan roedd statws merched yn wahanol iawn i heddiw. Roedd hi鈥檔 berson deallus a phwerus.

Roedd hi'n berchen ar blasdai ac ystadau eang. Hefyd fe briododd Catrin bedair gwaith mewn i rai o deuluoedd pwysicaf yr oes. Ar 么l i Maurice Wynn o Wydir, ei thrydydd g诺r farw, daeth Catrin yn un o wragedd cyfoethocaf Prydain.

Catrin oedd un o brif noddwyr y bardd, Wiliam Cynwal - dyma ei gwpled enwog iddi:

Catrin wych, wawr ddistrych wedd,
Cain ei llun, cannwyll Wynedd.

Tessie O鈥橲hea (1913鈥1995)

Tessie O'Shea gyda The Beatles
Image caption,
Y Beatles gyda Tessie O鈥橲hea a鈥檌 banjolele yn Efrog Newydd yn ystod recordio The Ed Sullivan Show yn 1964

I'm Two-Ton Tessie From Tennessee yw'r g芒n mae鈥檙 rhan fwyaf yn ei chysylltu 芒鈥檙 berfformwraig, Tessie O鈥橲hea - ond o ardal Glanyrafon, Caerdydd roedd hi鈥檔 dod.

Dechreuodd berfformio yn y theatrau cerdd pan roedd hi鈥檔 ifanc iawn. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf pan oedd hi鈥檔 12 oed ac roedd hi鈥檔 cael ei hadnabod fel "The Wonder of Wales". Roedd hi'n canu a chwarae鈥檙 banjolele fel rhan o'i pherfformiad.

Cafodd lwyddiant yn yr Unol Daleithiau hefyd. Enillodd wobr Tony am ei pherfformiad mewn sioe gerdd ar Broadway ac ymdangosodd yn y ffilm Disney, Bedknobs and Broomsticks. Yn 1964, roedd hi鈥檔 westai ar yr un rhifyn o The Ed Sullivan Show 芒鈥檙 Beatles. Ar y pryd dyna oedd y rhaglen gafodd y gynulleidfa fwyaf yn hanes teledu America.

Tessie O'Shea gyda The Beatles
Image caption,
Y Beatles gyda Tessie O鈥橲hea a鈥檌 banjolele yn Efrog Newydd yn ystod recordio The Ed Sullivan Show yn 1964

Gwenllian ferch Gruffydd (1100鈥1136)

Castell Cydweli
Image caption,
Castell Cydweli oedd safle Brwydr Maes Gwenllian yn 1136

Doedd dim y fath beth 芒 chyfle cyfartal i ferched yn yr oesoedd canol ond wnaeth hynny ddim rhwystro Gwenllian ferch Gruffydd rhag arwain byddin yn erbyn y Normaniaid.

Cafodd ei geni yn Aberffraw ar Ynys M么n. Priododd Gruffydd ap Rhys, Tywysog y Deheubarth ac aeth i fyw yng Nghastell Dinefwr. Weithiau roedd Gruffydd a Gwenllian yn gorfod cilio i鈥檙 mynyddoedd a鈥檙 coedwigoedd oherwydd y gwrthdaro rhwng y Cymry a鈥檙 Normaniaid.

Pan ddechreuodd gwrthryfel 1136, roedd Gruffydd yn y gogledd yn recriwtio milwyr. Cododd Gwenllian fyddin i ymladd y Normaniaid ar 么l iddyn nhw ymosod ar Gymry鈥檙 Deheubarth.

Cafodd Gwenllian ei dienyddio ar 么l iddi golli'r frwydr yn ymyl Castell Cydweli. Cododd ffynnon lle digwyddodd hyn, man sy'n cael ei alw yn Faes Gwenllian hyd heddiw.

Castell Cydweli
Image caption,
Castell Cydweli oedd safle Brwydr Maes Gwenllian yn 1136

Iris Williams (1946)

Iris Williams yn canu
Image caption,
Recordiodd Iris Williams sawl cyfres i'r 成人快手. Dyma hi yn canu ar y teledu yn 1996

Iris Williams yw鈥檙 unig aelod o Orsedd y Beirdd sy鈥檔 gallu dweud ei bod hi wedi canu ar y llwyfan gyda鈥檙 diddanwr, Bob Hope, ennill C芒n i Gymru a pherfformio yn y gyngerdd i ddathlu agoriad y Cynulliad yng Nghaerdydd.

Magwyd Iris Williams yn Nhonyrefail. Roedd hi鈥檔 adnabyddus yng Nghymru am ei recordiad o Pererin Wyf ac fe enillodd gystadleuaeth C芒n i Gymru yn 1974 gyda鈥檙 g芒n I gael Cymru'n Gymru Rydd.

Cyrhaeddodd rif 18 yn y siartiau gyda鈥檙 g芒n He Was Beautiful yn 1979. Mae hi bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau lle mae鈥檔 dal i berfformio.

Gwen John (1876-1939)

Lllun wedi ei beintio o ferch ifanc yn eistedd
Image caption,
Girl in Profile gan Gwen John

Chafodd yr artist Gwen John ddim o鈥檙 clod roedd hi鈥檔 ei haeddu yn ystod ei bywyd. Ar y pryd roedd mwy o sylw鈥檔 cael ei dalu i鈥檞 brawd, yr artist Augustus John. Erbyn hyn mae mwy a mwy yn credu mai Gwen oedd yr un mwyaf talentog.

Pan roedd hi鈥檔 blentyn, dechreuodd beintio y pethau roedd hi鈥檔 dod o hyd iddyn nhw ar draeth Dinbych y Pysgod. Astudiodd yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain, yr unig goleg celf oedd yn derbyn merched ar y pryd. Symudodd i Paris pan roedd hi鈥檔 h欧n.

Roedd hi鈥檔 hoffi peintio lluniau o ferched yn eistedd. Yn aml, mae'r merched yn y lluniau yn darllen. Mae hyn yn dangos ei bod hi鈥檔 credu dylai merched fod yn addysgiedig ac yn annibynnol.

Lllun wedi ei beintio o ferch ifanc yn eistedd
Image caption,
Girl in Profile gan Gwen John

Betsi Cadwaladr (1789鈥1860)

Ganwyd Betsi Cadwaladr yn y Bala ond wnaeth hi ddim aros yna'n hir. Teithiodd hi i Lundain, De America, Affrica ac Awstralia cyn mynd i weithio fel nyrs yn Rhyfel y Crimea pan oedd hi'n 65 oed.

Gadawodd ysbyty Scutari yn Nhwrci am nad oedd hi鈥檔 gweld llygad yn llygad 芒 Florence Nightingale a oedd yn rhedeg yr ysbyty. Roedd y ddwy yn dod o gefndiroedd gwahanol iawn ac roedd Betsi yn fodlon torri'r rheolau os oedd hynny'n helpu ei chleifion.

Symudodd Betsi鈥檔 agosach at yr ymladd. Roedd hi鈥檔 nyrsio cleifion, glanhau ac yn coginio am ugain awr y dydd gan gysgu ar lawr. Pan welodd Florence Nightingale yr hyn roedd hi鈥檔 ei gyflawni, newidiodd ei meddwl am Betsi a bu鈥檔 rhaid iddi gydnabod ei chyfraniad.

Dychwelodd Betsi i Lundain yn 1855 yn dioddef o鈥檙 colera a bu farw bum mlynedd yn ddiweddarach. Claddwyd hi mewn bedd tlotyn a gosodwyd cofeb newydd ar ei bedd yn 2012.

Pecynnau dysgu Cyfnod Allweddol 2 am bum merch eithriadol o Gymru

Merched Mawreddog

Gwleidyddiaeth a Ffeministiaeth

Sut wnaeth merched brotestio ar ddechrau'r 20fed ganrif er mwyn cael yr hawl i bleidleisio?

Gwleidyddiaeth a Ffeministiaeth

Chwyldro benywaidd

Dysga am Malala Yousafzai a menywod anhygoel eraill a鈥檜 llwyddiannau

Chwyldro benywaidd