Os wyt ti'n meddwl dy fod yn gwybod popeth am gysawd yr haul, meddylia eto.
Mae rhai o'r ffeithiau hyn yn arallfydol!
Byddai'n cymryd 100 gwaith yn hirach i deithio o gwmpas yr Haul na'r Ddaear
Mae hedfan i ben draw'r byd yn gallu bod yn daith hir a diflas, ond dydy hynny'n ddim i gymharu 芒 hedfan o gwmpas yr Haul. Byddai'r daith honno'n cymryd 206 o ddiwrnodau. Os wyt ti鈥檔 bwriadu mynd am drip o gwmpas yr Haul, cofia baratoi digon o frechdanau i fynd gyda ti.
Alli di ddim sefyll ar Wranws
Efallai cei di sioc wrth gamu o dy long ofod ar 么l cyrraedd Wranws. Does gan y cewri nwy - Iau, Sadwrn, Wranws a Neifion 鈥 ddim arwynebedd solet. Mae ganddyn nhw graidd creigiog, ond peli anferth o hydrogen a heliwm ydyn nhw ar y cyfan.
Mae'r blaned Mawrth mor oer 芒 phegwn y de
Os wyt ti'n bwriadu teithio i'r blaned Mawrth yn y dyfodol agos, cofia fynd 芒 chot gynnes gyda ti. Mae鈥檙 tymheredd cyfartalog yno tua -60掳C, yr un peth 芒 phegwn y de (ond heb y pengwiniaid). Mae rhai gwyddonwyr wedi cynnig ffyrdd o gynhesu Mawrth er mwyn ei gwneud haws i bobl fyw yno. Un syniad yw adeiladu drychau anferth i adlewyrchu pelydrau'r Haul, i roi hwb i gynhesu鈥檙 blaned.
D诺r yw 90% o gylchoedd Sadwrn
Sadwrn yw'r lle gorau yng nghysawd yr haul i sglefrio i芒. Mae'r d诺r yn y cylchoedd o gwmpas y blaned wedi rhewi gan eu bod mor bell o'r Haul.
Mae Sadwrn yn un o'r pedair planed sydd 芒 chylchoedd. Mae gan weddill y cewri nwy rai hefyd ond chafodd cylchoedd y rhain ddim eu darganfod tan yr 1970au pan ddanfonwyd llongau gofod i'w harchwilio. Cylchoedd Sadwrn yw'r unig rai gallwn ni eu gweld o'r Ddaear drwy delesgop.
Nid ar y Ddaear mae鈥檙 cefnfor mwyaf yng nghysawd yr haul
Ganymede yw lleuad fwyaf y blaned Iau. Mae gwyddonwyr sydd wedi defnyddio telesgop Hubble i鈥檞 hastudio wedi darganfod cefnfor o dan yr i芒 trwchus sy鈥檔 ei gorchuddio. Maen nhw鈥檔 credu bod y m么r hwn hyd at 100 cilometr o ddyfnder. Mae鈥檔 bosib bod mwy o dd诺r hallt yn y cefnfor hwn nag sydd ar y Ddaear gyfan.
Mae Ganymede yn fwy na'r blaned Mercher. Byddai'n cael ei chyfri'n blaned pe bai mewn orbit o gwmpas yr Haul yn hytrach na Iau.
Mae Neifion yn cymryd bron i 165 o flynyddoedd y Ddaear i gyflawni un orbit o'r Haul
Neifion yw鈥檙 blaned sy鈥檔 cymryd hiraf i deithio o gwmpas yr Haul. Mae blwyddyn ar Neifion, sef yr amser mae鈥檔 ei gymryd i deithio o gwmpas yr Haul, yn para bron i 165 o flynyddoedd y Ddaear.
Mercher yw'r blaned agosaf at yr Haul, felly hi sydd 芒鈥檙 orbit lleiaf. Mae blwyddyn ar y blaned Mercher yr un peth 芒 thri mis ar y Ddaear. Felly, os wyt ti鈥檔 hoffi part茂on pen-blwydd, dyma鈥檙 blaned i ti.
Mae diwrnod yn hirach na blwyddyn ar y blaned Gwener
Diwrnod yw'r amser mae'n ei gymryd i blaned gylchdroi unwaith, a blwyddyn yw'r amser mae'n ei gymryd iddi wneud un orbit o'r Haul.
Nid yn unig mae Gwener yn un o鈥檙 ddwy blaned sy鈥檔 troi鈥檔 glocwedd, mae hi鈥檔 cylchdroi鈥檔 arafach na鈥檙 planedau eraill. Mae'n cymryd 243 o ddiwrnodau'r Ddaear iddi gylchdroi unwaith a 225 o ddiwrnodau'r Ddaear i deithio o gwmpas yr Haul. Felly, mae diwrnod yn hirach na blwyddyn yno.
Nid Plwton yw'r unig gorblaned yn nghysawd yr haul
Dydy corblaned ddim yn blaned ond dyw hi ddim yn lleuad chwaith. Y tro cyntaf i lawer glywed y term oedd pan gafodd Plwton ei diraddio o blaned i gorblaned yn 2006 (druan bach).
Tan yn ddiweddar, Plwton, Ceres, Makemake, Haumea ac Eris oedd yr unig rai roedden ni'n gwybod amdanyn nhw. Mae Ceres yn y gwregys asteroidau rhwng Mawrth a Iau. Yn 2015 hi oedd y gorblaned gyntaf i long ofod ymweld 芒 hi.
Mae chweched corblaned wedi ei darganfod yn ddiweddar ymhell tu hwnt i Plwton. Yr enw swyddogol arni yw 2015 TG387, ond ei llysenw yw 'Y Coblyn'.
Mae cysawd yr haul yn hen iawn
Mae gwyddonwyr yn credu bod cysawd yr haul tua 4.5 biliwn o flynyddoedd oed. Daethon nhw i鈥檙 casgliad hwn ar 么l astudio鈥檙 isotopau mewn meteorynnau. Mae鈥檙 creigiau hynaf sydd wedi eu darganfod ar y Ddaear yn 3.8 biliwn o flynyddoedd oed.
Cafodd y Bydysawd ei greu gan y Glec Fawr tua 13.7 biliwn o flynyddoedd yn 么l ond dim ond ychydig o filiynau o flynyddoedd sydd ers i gyndeidiau cyntaf bodau dynol ymddangos.
Dydyn ni ddim yn hollol si诺r beth sydd tu hwnt i Plwton
Dydyn ni dal ddim yn gwybod yn iawn sut le yw rhannau allanol cysawd yr haul. Mae gwyddonwyr yn gobeithio darganfod mwy gyda help llong ofod New Horizons. Cafodd ei lansio yn 2006 ac fe gyrhaeddodd Plwton yn 2015. Dyma鈥檙 llong ofod gyntaf i hedfan heibio i鈥檙 gorblaned ac fe dynnodd y lluniau mwyaf manwl eto ohoni.
Erbyn hyn mae New Horizons wedi teithio yn ddyfnach i Wregys Kuiper, ardal o鈥檙 gofod lle ceir darnau o graig, i芒, comedau a chorblanedau. Mae hi eisoes wedi danfon lluniau yn 么l o wrthrych rhyfedd iawn o'r enw Ultima Thule sydd 芒 si芒p tebyg i ddyn eira. Un diwrnod fe gawn ni wybod yn union beth sydd allan ym mhellafoedd cysawd yr haul.
Y Bydysawd
Canfod cyfansoddiad cemegol s锚r a phrofi bod y Bydysawd yn ehangu
S锚r a phlanedau
Dysga am s锚r, planedau, comedau, asteroidau ac am ffurfio cysawd yr haul
Y Ddaear
Adeiledd y Ddaear, tectoneg platiau a sut mae mynyddoedd yn cael eu ffurfio