成人快手

Francis Crick a James Watson
Image caption,
Francis Crick a James Watson gyda model o foleciwl DNA

Am hanner dydd ar 28 Chwefror, 1953, cerddodd Francis Crick a James Watson mewn i dafarn The Eagle yng Nghaergrawnt a chyhoeddi, 鈥淩ydyn ni wedi darganfod cyfrinach bywyd.鈥

Yn gynharach y bore hwnnw, yn labordy Cavendish gerllaw, roedd y ddau wyddonydd wedi canfod strwythur asid deocsiriboniwcle茂g neu DNA.

Newidiodd y darganfyddiad hwn fyd gwyddoniaeth a meddygaeth am byth a rhannodd Crick, Watson a Maurice Wilkins wobr Nobel am eu gwaith yn 1962.

Darganfyddiad Crick a Watson

Ffotograff diffreithiant pelydr X o DNA.
Image caption,
Ffotograff 51- y ffotograff diffreithiant pelydr X enwog o DNA a dynnwyd gan Rosalind Franklin

Cafodd DNA ei ddarganfod yn 1869 ond fe gymerodd hi tan 1943 i wyddonwyr sylweddoli mai DNA oedd y deunydd genetig mewn celloedd a鈥檌 fod yn cynnwys c么d bywyd. Y cam nesaf oedd canfod ei strwythur er mwyn deall sut mae鈥檙 gennyn, uned sylfaenol etifeddiad, yn gweithio a sut mae鈥檔 cael ei basio o un genhedlaeth i鈥檙 nesaf.

Roedd Crick a Watson yn ceisio adeiladu model 3D o foleciwl DNA. Ond nid nhw oedd yr unig rai oedd yn gweithio ar ganfod ei strwythur. Roedden nhw鈥檔 cystadlu gyda th卯m yn King鈥檚 College Llundain a oedd yn defnyddio techneg newydd grisialograffaeth i astudio DNA.

Llwyddodd un ohonyn nhw, Rosalind Franklin, i dynnu patrwm diffreithiant pelydr X oedd yn dangos siap helics, sef Ffotograff 51. Heb yn wybod iddi hi, dangosodd un o鈥檌 chydweithwyr y llun i James Watson. Pan welodd e鈥檙 llun roedd e鈥檔 gwybod bod ei ddamcaniaeth e a Francis Crick am strwythur DNA yn gywir.

Strwythur DNA

Model o foleciwl DNA
Image caption,
Y model gwreiddiol o strwythur DNA a gafodd ei greu gan Crick a Watson

Camp Crick a Watson oedd sylweddoli bod yna ddau edefyn sy鈥檔 torchi o gwmpas ei gilydd i ffurfio helics dwbl. Mae鈥檙 ddau edefyn wedi ei dal at ei gilydd gan fondiau rhwng parau o fasau. Mae pedwar math o fas - adenin, thymin, cytosin a gwanin.

Mae DNA ym mhob cell ddynol. Mae鈥檙 3 biliwn p芒r o fasau ym mhob cell i ffitio mewn i ofod sy鈥檔 6 micron ar draws. Pe byddai鈥檙 DNA mewn un gell yn cael ei ymestyn byddai鈥檔 2m o hyd. Byddai鈥檙 holl DNA mewn corff dynol yn ymestyn i Plwton ac yn 么l.

Mae鈥檙 genom dynol - yr holl ddeunydd genynnol sydd yn ein DNA - fel y rys谩it i wneud bod dynol. Byddai un copi ohono yn llenwi mwy na chant o lyfrau. Mae鈥檔 cynnwys 700MB o ddata (dim ond 130MB sydd yn yr Encyclopedia Britannica).

DNA ac esblygiad

Crwban enfawr
Image caption,
Astudiodd Charles Darwin greaduriaid Ynysoedd y Galapagos megis y crwban enfawr cyn datblygu ei ddamcaniaeth o esblygiad trwy ddetholiad naturiol

Drwy DNA mae gwybodaeth genetig yn cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, felly mae'n chwarae rhan allweddol mewn esblygiad. Dyma'r broses sy鈥檔 galluogi pethau byw i newid dros amser. Mae鈥檙 newidiadau hyn yn digwydd achos bod y genom yn newid.

Alfred Russel Wallace
Image caption,
Ganwyd Alfred Russel Wallace yn Llanbadog Fawr, Sir Fynwy yn 1823

Mae darganfod strwythur DNA a dechrau deall y rhan mae鈥檔 ei chwarae mewn etifeddiad wedi profi bod damcaniaethiau esblygiad Alfred Russel Wallace a Charles Darwin yn gywir. Fe ddywedon nhw bod rhywogaethau yn hanu o gyd-hynafiad. Pan gyhoeddodd Darwin ei lyfr On the Origin of Species yn 1859, roedd llawer yn gwrthod credu bod bodau dynol, epaod a mwnciod yn perthyn i鈥檞 gilydd.

Mae鈥檔 anhygoel bod y pedwar bas mewn DNA yn gyfrifol am holl amrywiaeth bywyd ar y Ddaear. Yr un system DNA sydd gan fodau dynol, bacteria a mamothiaid. Rydyn ni鈥檔 rhannu 99% o鈥檔 DNA gyda tsimpans卯s a tua 50% o鈥檔 DNA gyda bananas.

DNA ac etifeddiad

Sut mae strwythur DNA yn gyfrifol am ei swyddogaeth, a sut mae gwyddonwyr yn defnyddio鈥檜 gwybodaeth am DNA i greu a defnyddio proffiliau genynnol

DNA ac etifeddiad

Esblygiad

Dysga am Darwin a Wallace a鈥檜 syniadau am ddetholiad naturiol, ac am y dystiolaeth bod rhywogaethau鈥檔 esblygu trwy鈥檙 dull hwn heddiw

Esblygiad

Datblygiadau ym maes gwybodaeth feddygol

Darllena am sut mae triniaeth feddygol wedi newid dros amser ac am dechnegau modern fel addasu DNA ac ymchwil genetig

Datblygiadau ym maes gwybodaeth feddygol