Beth rydym yn ei wneud
Rydym yn comisiynu ac yn cynhyrchu adnoddau Cymraeg a Saesneg ar gyfer ³ÉÈË¿ìÊÖ Bitesize, ³ÉÈË¿ìÊÖ Teach ac ymgyrchoedd addysg. ³ÉÈË¿ìÊÖ Bitesize ydy ein gwefan addysgol flaengar sy’n cynnig adnoddau i blant rhwng 3–16 oed ddysgu gartref a hunan-astudio, ac mae’r rheiny wedi’u cymeradwyo’n addysgol ac yn berthnasol i’r cwricwlwm. Dechreuodd ym 1999 fel adnodd TGAU ac mae bellach yn cynnwys dros 20,000 o dudalennau gwe o gynnwys sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac oedran ysgol yn Gymraeg a Saesneg. Mae gennym hefyd sianeli cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter, Instagram a TikTok), gemau a chynnwys ategol sy’n cynnwys pecyn cymorth i rieni er mwyn helpu gydag iechyd a lles. Ein cenhadaeth yw helpu pob plentyn a pherson ifanc yn y DU i gyflawni eu potensial o ran dysgu.
Mae ³ÉÈË¿ìÊÖ Teach yn safle adnoddau addysgu pwrpasol sy’n ceisio cefnogi athrawon drwy guradu’r gorau o blith fideos, clipiau ac adnoddau eraill y ³ÉÈË¿ìÊÖ sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Rydym hefyd yn cyflwyno rhaglenni sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm drwy ³ÉÈË¿ìÊÖ Teach a Live Lessons, gan fynd i’r afael â diffygion cymdeithasol ac addysgol yn y DU drwy weithredu fel arweinydd partneriaethau strategol sydd â’r nod o sicrhau newid gwirioneddol.
Pwy ydyn ni?
Nia M Davies
E-bost- nia.davies2@bbc.co.uk
Beth sydd ar gael?
Rydym yn comisiynu animeiddiadau a ffilmiau byr ar gyfer amrywiaeth o bynciau yn ogystal â chynnwys ysgrifenedig, graffeg, a rhywfaint o gynnwys rhyngweithiol. Fel arfer, bydd briff ³ÉÈË¿ìÊÖ Education yn gofyn am fformat cynnwys penodol ar draws un maes ffocws. Mae’r dogfennau tendro, sy’n gymysgedd o friffiau dros e-bost ond a gyhoeddir yn bennaf ar y wefan gomisiynu, yn nodi cyfres benodol o bethau i’w cyflawni yn erbyn yr amcanion dysgu addysgol y cytunwyd arnynt.
Yn ogystal â chyfleoedd comisiynu a hysbysebir, mae gennym bob amser ddiddordeb mewn clywed syniadau newydd a all helpu gyda’n hymrwymiad i ddarparu adnoddau addysgol o safon. Dim ond ar dudalen A4 y bydd angen i’r syniadau damcaniaethol hyn gael eu cyflwyno, a rhaid ymdrin â'r maes pwnc, y grŵp oedran targed/cyfnod allweddol ac esboniad byr o anghenion y cwricwla. Dylid e-bostio’r rhain at y comisiynydd addysg yng Nghymru yn y lle cyntaf, sef Nia M Davies.
Ein canllawiau comisiynu amrywiaeth a chynhwysiant
Mae canllawiau comisiynu amrywiaeth a chynhwysiant ³ÉÈË¿ìÊÖ Education yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant. Darllenwch y canllawiau hyn wrth ymateb i unrhyw un o’n briffiau comisiynu.
Comisiynau Bitesize Cymru 2024/25
Mae'r cyfnod derbyn ceisiadau wedi dod i ben.
Mae modd gweld holl gyfleoedd comisiynu ³ÉÈË¿ìÊÖ Addysg ledled y DU ar wefan ³ÉÈË¿ìÊÖ Education commissioning (cynnwys Saesneg).