Mae’r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn ymrwymo i gwrdd â gofynion y safonau, ac mae dyletswydd arnom i wneud hynny wrth ddarparu:
- Gwasanaethau Cynulleidfa
- Gwasanaethau Corfforaethol
- Trwyddedu Teledu
Rydym yn cydnabod hawl unigolion i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg ac ni fyddwn yn trin yr iaith yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth ddarparu’r gwasanaethau uchod.
Rydym yn croesawu cyswllt gan y cyhoedd a’n rhan-ddeiliaid yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gallwch...
- Ffonio ni a derbyn gwasanaeth dwyieithog
- Ysgrifennu llythyr neu e-bost atom yn Gymraeg neu yn Saesneg
- Siarad â ni wyneb yn wyneb yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Cwyno wrthym yn Gymraeg os yw pethau yn mynd o chwith
Byddwn yn...
- Ysgrifennu a chyfathrebu gyda chi yn ddwyieithog
- Cyhoeddi ein dogfennau cyhoeddus yng Nghymru yn ddwyieithog
- Hwyluso cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau corfforaethol yn ddwyieithog
- Darparu gwybodaeth ar-lein am y ³ÉÈË¿ìÊÖ yng Nghymru yn ddwyieithog
- Hyrwyddo cyfleodd i ddefnyddio'r Gymraeg gyda ni
Nid yw ein gwasanaethau darlledu ar y radio, teledu ac ar-lein wedi eu cynnwys o fewn y safonau.
Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau darlledu o safon uchel i chi yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.